PWYLLGOR GWAITH Y BLAID WERDD: MANIFFESTO ETHOLIADOL
Dros y flwyddyn diwethaf rydym wedi gweld côd ddigyffelyb mewn cefnogaeth am y Blaid Werdd. Mae ein neges yn glir: i gadw dyfodol cynaliadwy wrth galon ein polisïau. Rydym yn gwrthwynebu llymder, yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd, yn siarad allan yn erbyn trin mewnfudwyr fel gelynion, ac rydym yn amddiffyn y rheini yn y gymdeithas sy’n agored i niwed, yn amddiffyn yr amgylchedd – am ddyfodol teg a gwyrdd.
Eisiau gweld gwleidyddiaeth gwyrdd mau pleidleiswyr. Gyda dros miliwn o bleidleisiau yn yr etholiad diwethaf, ail-etholiad Caroline Lucas a canlyniadau cryf yn yr etholaethau eraill, mae hynny’n amlwg. Gadewch i ni gymryd yr hyn yr ydym wedi dysgu, ac ei ddefnyddio er mwyn sefydlu mudiad a fydd yn parhau.
Trwy gyhoeddiadau pellgyrhaeddol mae’n rhaid i ni gyfarthrebu ein neges yn effeithiol. Chi yr aelodau a’r partioedd lleol yw asgwrn cefn y Blaid Werdd; mae’n allweddol ein bod yn defnyddio a gwella’r rhydwaith er mwyn cadw momentwm y Blaid yn tyfu o nerth i nerth.
Os byddwn yn cael ein etholi, byddwn yn sicrhau adnoddau ar gyfer pob grwp lleol er mwyn iddyn nhw allu estyn allan at gefnogwyr a phleidlesiwyr newydd.
Byddem yn:
· Cefnogi ein aelodaeth, partioedd a grwpiau lleol
· Casglu adborth ar ein cyhoeddiadau i gadw’r aelodau’n weithredol yn y parti
· Ymgymryd ddull myfyriol ynghylch y cyhoeddiadau â fydd yn ateb anghenion ein aelodau
· Datblygu pwll o adnoddau sy’n hawdd i’w gyrraedd ac yn weladwy, â fydd ar gael i’n aelodau a partioedd lleol (yn cynnwys templedi, delweddau, cysylltiadau, ffontiau, ac adnoddau eraill perthnasol)
I gynyddu gwelededd ein cyhoeddiadau:
· Sicrhau amrywiaeth fformat ein cyhoeddiadau (sain, braille, rhwydd i’w ddarllen, fideo, dogfennau ar-lein, dogfennau rhyngweithiol)
· Sicrhau bod cyfieithiadiau yn rhwydd i’n partioedd lleol; datblygu rhydwaith o gyfiethwyr s’yn agored i bartioedd lleol er mwyn eu alluogi i gysylltu â siaradwyr ieithoedd heblaw Saesneg, ac i gefnogi cyhoeddiadau trwy’r Gymraeg
· Cynyddu amrywiaeth: cefnogi cyhoeddiadau sy’n aneli at/ wedi’u ysgrifennu gan grwpiau lleiafrifol
Ein gwaith ar y Pwyllgor Gwaith (GPEx):
· Sicrhau tryloywder y pwyllgor, yn ogystal â sicrhau cyfathrebiad effeithiol rhwng y pwyllgor a grwpiau lleol neu rhanbarthol
· Gweithio gyda cydlynwyr y pwyllgor, sicrhau ein bod yn eu cynorthwyo i gyflawni eu blaenoriaethau ac ein bod yn gwella cyhoeddiadau traws-rôl – i hwyluso’u cyfarthrebiad gyda gweddill y parti
· Gweithio’n agos gyda bwrdd golygyddol ‘Green World’
Profiad
Fiona
· Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol Plaid Werdd Ifanc (Swyddog Digwyddiadau/ Llefarydd Rhyngwladol): Yn gweithio ar gyhoeddiadau Ieuenctid y Plaid Werdd, digwyddiadau a cynnyddu cyfranogiad ifanc i’r Plaid Werdd Ifanc o 2,000 nes dros 23,000
· Cydlynydd grwp gweithredol ffederasiwn Plaid Werdd Ifanc Ewropiaidd: Gweithredu’r ymgyrch rhyngwladol ‘Reclaim Europe’ ar draws Cymru a Lloegr
· Cyd-sylfaenydd Plaid Werdd Ifanc yn Aberystwyth
· Yn gweithio i’r Ffederasiwn Werdd Ewropiaidd ym Mrwsel: yn gweithio ar gynhyrchiad a chyflwyniad amrywiaeth o gyhoeddiadau
Jennifer
· Ymgeisydd yn yr etholiadau cyffredinol a lleol 2014-15: yn goruchwylio cynlluniant, cynhyrchiad a ddosbarthiad deunyddiau etholiad
· Trysorydd y Blaid Werdd yn Milton Keynes
· Trysorydd y Blaid Werdd Ifanc yn Milton Keynes
· Aelod o gynllun dan 30 y Blaid Werdd Ifanc
· Asesydd Ynni Domestig/ Archwilydd ar gyfer Gwasanaethau Ynni Cenedlaethol